Welsh Rail Framework Consultation
Rail Infrastructure Apprenticeship Framework
English
Enginuity is undertaking a four-week public consultation on there view of the Level 2 and Level 3 Rail Infrastructure Apprenticeship Framework, on behalf of the Welsh Government.
We are working together with a range of sector stakeholders from across Wales including rail employers, training providers, Welsh Government, Industry Wales and Qualifications Wales.
The apprenticeship framework is being revised to ensure that it is up to date and fit for purpose to meet the needs of the rail infrastructure sector in Wales. Further, it supports the vision of the sector to develop an increasingly skilled, flexible and effective workforce, whilst providing a positive route for attracting and retaining staff into the rail infrastructure sector.
Do you work within the rail infrastructure sector in Wales?
Then we need your input.
We are inviting feedback on the revised draft Apprenticeship from those working in Track Maintenance, Signalling, Electrification, and Telecoms in Wales, to ensure the apprenticeship reflects what is needed in your sector.
This is your opportunity to help shape the rail infrastructure workforce and to contribute to raising the profile of careers in our rail engineering sector.
The consultation will be live until Friday 28th May 2021.
If you have any comments or questions about the consultation, please email [email protected]
Cymraeg
Mae Enginuity yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos ar yr adolygiad o Fframwaith Prentisiaeth Seilwaith Rheilffordd Lefel 2 a Lefel 3, ar ran Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio gydag amryw o randdeiliaid o’r sector o bob rhan o Gymru gan gynnwys cyflogwyr rheilffyrdd, darparwyr hyfforddiant, Llywodraeth Cymru, Diwydiant Cymru a Chymwysterau Cymru.
Mae’r fframwaith prentisiaeth yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn addas at y diben i ddiwallu anghenion y sector seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Hefyd, mae’n cefnogi gweledigaeth y sector i ddatblygu gweithlu cynyddol fedrus, hyblyg ac effeithiol, wrth ddarparu llwybr cadarnhaol ar gyfer denu a chadw staff yn y sector seilwaith rheilffyrdd.
Ydych chi’n gweithio yn y sector seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru?
Yna mae angen eich mewnbwn arnom.
Rydym yn gwahodd adborth ar y Brentisiaeth ddrafft ddiwygiedig gan y rhai sy’n gweithio ym maes Cynnal a Chadw Traciau, Signalau, Trydaneiddio a Thelathrebu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod y brentisiaeth yn adlewyrchu’r hyn sydd ei angen yn eich sector.
Dyma’ch cyfle i helpu i lunio’r gweithlu seilwaith rheilffyrdd ac i gyfrannu at godi proffil gyrfaoedd yn ein sector peirianneg rheilffyrdd.
Bydd yr ymgynghoriad yn fyw tan ddydd Gwener 28 Mai 2021.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am yr ymgynghoriad, e-bostiwch [email protected]